Cyflwyniad

Croeso i Prosiect Fi, dyma’r lle i ddysgu popeth am y prosiect!

Channel 4YP

Argymhellion

Cyflwyniad

Croeso i Prosiect Fi, dyma’r lle i ddysgu popeth am y prosiect!

Deall Ymennydd yr Arddegau

Wyt ti erioed wedi meddwl tybed sut mae ymennydd yr arddegau’n gweithio? Dyma fideo difyr sy’n rhannu gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer pobl ifanc…

Meddylgarwch

Cer ati i archwilio a rhoi cynnig ar ambell i dechneg Meddylgarwch gyda Natalie; dyma le gwych i ddechrau os yw Meddylgarwch yn newydd i ti…

Cadw’n Weithgar

Cadw’n weithgar yw un o’r ffyrdd gorau o edrych ar ôl dy les; dysga gan Mike pam mae’n bwysig cadw’n weithgar a sut galli wneud hyn bob dydd…

Meithrin Cyfeillgarwch

Mae perthnasoedd yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd rydyn ni’n teimlo. Sut allwn ni feithrin ein perthnasoedd a chael y gorau ohonyn nhw? Darganfyddwch fwy

Byw’n Iach

Gallwn ni oll wneud dewisiadau bach bob dydd sy’n ein helpu i deimlo’n well, ac mae’r fideo hwn yn dangos rhai o’r dewisiadau iach sy’n gwneud gwahaniaeth MAWR…

Meddyliau Cadarnhaol

Dydy “meddwl yn gadarnhaol” ddim bob amser yn hawdd, yn enwedig pan fo bywyd yn anodd, ond mae treulio ychydig o amser yn ystyried sut mae ein meddyliau’n effeithio ar ein teimladau a’n hymddygiad yn lle da i ddechrau. Yn y fideo hwn, Mae Mark yn ein harwain drwy gyflwyniad i feddyliau cadarnhaol gyda gweithgaredd bach i helpu’r meddyliau hynny dyfu…

Estyn Allan

Gall estyn allan at rywun i ofyn am help neu fod yno i rywun sy’n estyn allan atat ti wneud gwahaniaeth enfawr i’n lles. Mae’r fideo hwn yn dy helpu i feddwl am bwy rwyt ti’n estyn allan atynt a sut mae gwneud hynny pan fo pethau’n anodd…

Helpu Eraill

Wyt ti erioed wedi sylwi mor dda mae’n teimlo i helpu rhywun arall? Mae helpu eraill yn cael effaith syfrdanol o gadarnhaol ar ein lles ni’n hunain, ynghyd â’r bobl rydyn ni’n eu helpu. Gwylia’r fideo am ambell i syniad am sut galli di helpu eraill.

Cael Trefn ar Bethau

Hoffet ti deimlo ychydig yn fwy trefnus? Mewn byd prysur a galwadau ar ein hamser o hyd, gall fod yn rhyddhad teimlo bod gen ti gynllun a ffordd o gadw trefn ar bethau. Mae’r fideo hwn yn lle da i ddechrau arni, gyda syniadau gwych ar gyfer bywyd a meddwl trefnus.

Arferion Cwsg Iach

Efallai bod cael digon o gwsg yn bwysicach nag wyt ti’n feddwl; dyma un o’r ffyrdd gorau i gynnal dy les. Ond dydy hi ddim yn hawdd bob amser. Gwylia’r fideo hwn i ddarganfod mor bwysig yw cwsg, ac ambell ddarn o gyngor ar gyfer cael cwsg da…

Gosod Nodau Realistig a Chyraeddadwy

Mae angen ystyr a phwrpas mewn bywyd arnom ni i gyd, a heb fap i’n harwain tua’r nodau yr hoffem eu cyrraedd a’r pethau yr hoffem eu cyflawni, mae’n hawdd teimlo ar goll. Bydd y fidaeo hwn yn dy helpu i osod nodau realistig a chyraeddadwy.

Cipolwg ar y Wefan ac Ysgrifennu

Eisiau gwybod mwy am wefan Platfform for Young People? Ymuna â Lucy, sydd am ein tywys o amgylch y wefan, a galli ddysgu sut i gymryd rhan mewn creu cynnwys creadigol ar gyfer pobl ifanc eraill!

Pŵer Mentoriaid Cyfoedion a sylwadau i gloi

Beth yw Mentor Cyfoedion? Sut maen nhw’n helpu? Gwylia’r fideo hwn i ddysgu mor bwysig yw’r gefnogaeth mae pobl ifanc yn ei roi i’w gilydd a’r gwahaniaeth mae hynny wedi’i wneud i fywydau pobl ifanc.