Cymrwch ychydig o amser
i chi eich hun

Mae Prosiect Fi, gan Platfform4YP, yn ofod ar-lein sy’n eich cefnogi chi gyda’ch iechyd meddwl a’ch lles bob dydd.

Mae’n rhywle ble gallwch adlewyrchu ar eich teimladau, darllen awgrymiadau ar edrych ar ôl eich lles, a dod o hyd i wybodaeth ar ble i fynd i gael mwy o help os oes angen.

Mae gennym ystod o adnoddau (i’ch helpu chi i oroesi’r adegau hynny pan fydd angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch chi.

Gallwch weithio drwy bopeth ar eich cyflymder eich hun.

Mae eich lles yn bwysig – felly cymrwch ychydig o amser i chi eich hun.

Beth yw Prosiect fi?

Dros yr 18 mis diwethaf mae bywyd wedi bod i fyny ac i lawr. Mae pethau wedi bod yn arbennig o anodd i bobl ifanc, felly os ydych chi’n cael trafferth, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Rhaglen ar-lein yw Prosiect Fi ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed, i’ch helpu chi drwy’r adegau hynny pan fydd angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch er eich lles.

Byddwn yn eich tywys drwy ein cwis lles – bydd yn rhoi cyfle i chi i fyfyrio ar beth rydych chi’n ei wneud i gefnogi eich lles nawr, a pha newidiadau bychain y gallwch chi eu rhoi ar waith mewn meysydd penodol o’ch bywyd.

Chi fydd yn arwain y rhaglen, sy’n golygu y gallwch fynd drwyddo ar eich cyflymder eich hun. Hefyd, mae gennym lawer o wybodaeth ar ble gallwch ddod o hyd i ragor o gefnogaeth os oes angen.

Platfform Quiz

Cwbwlhau’r cwis

Mae ein cwis lles yn ffordd syml o’ch helpu chi i weld pa feysydd o’ch bywyd all fanteisio ar ychydig mwy o hunanofal.

Rydyn ni’n edrych ar feysydd fel perthnasoedd positif, meddylgarwch, cymhelliant a sut gallwch chi roi camau bach ar waith i wella’r meysydd o’ch dewis!

Dyma ffordd wych i chi gymryd camau tuag at fyw bywyd wedi’ch grymuso fwy, a fydd yn talu ar ei ganfed.

Take the quiz

Cymerwch selffi

Cymerwch selffi gydag un o’n rhagosodiadau hwyliog a rhannwch eich bod chi’n cymryd rhan yn #ProjectFi

Take a selfie
Platfform Selfie App
Platfform Videos

Fideos

Rydym wedi creu cyfres o fideos ar sail ein rhaglen les 10 wythnos y gallwch chi gael gafael arnynt yn eich amser eich hun ac ar eich cyflymder eich hun.

Eisiau dysgu sut i feithrin mwy o deimladau a meddyliau positif? Neu sut i siarad am eich teimladau? Edrychwch ar ein fideos yma:

Let me see

Blogiau a chynnwys gan bobl ifanc

Mae gan Blatfform4YP wefan a gafodd ei chreu gan bobl ifanc, i bobl ifanc. Mae blogiau ar bethau fel cyfeillgarwch, hunaniaeth rywedd, sut i fynegi eich hunan, iechyd meddwl yn y brifysgol, a llawer mwy.

Mae gennym ran hefyd ar argymhellion am lyfrau, adolygiadau ffilmiau a phodlediadau – beth bynnag fo’ch diddordebau.

I wanna read
Platfform Blogs & Social Posts
Platfform Videos

Mae angen help ar bob un ohonom o bryd i’w gilydd

Mae angen help ar bob un ohonom o bryd i’w gilydd

I need support