Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 13 – 16 yn Abertawe, Castell Nedd a Phort Talbot, gyda chyfuniad o gefnogaeth un-i-un, grwpiau cefnogaeth cyfoedion a’r Rhaglen Meddwl am dy Feddwl. Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Vibe Youth a Barod i gynnal gweithdai fel rhan o’r prosiect.

Nid oes angen diagnosis ar unrhyw un i ymuno â’n prosiect, rydym yn gweithio gydag unrhyw un sy’n cael trafferth ymdopi.

Dydyn ni ddim yn ceisio ‘trwsio’ pobl. Rydyn ni’n gwrando ar ac yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i strategaethau a ffyrdd newydd sy’n helpu i hybu eu llesiant.

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i hyfforddi i fod yn Fentor Cyfoedion Gwirfoddol. Mae Mentoriaid yn gwiethio gyda ni i siapio’r prosiect wrth iddo fynd rhagddo, er mwyn iddo fod yr union beth y mae pobl ifanc ei angen a’i eisiau.

Beth mae’r prosiect yn ei gynnwys

Grwpiau cyfoedion
Cwrdd yn wythnosol mewn amgylchedd diogel a hamddenol lle caiff bobl ifanc fynegi eu hunain a chael llais. Nhw sy’n penderfynu pa agweddau llesiant maen nhw am ei drafod a faint maen nhw am ei rannu. Yn y grwpiau, byddwn yn cynnal gweithdai ar y pynciau mae’r bobl ifanc yn gofyn amdanynt, felly mae’n gyfle i ddysgu gan ein gilydd a chael hwyl ar yr un pryd!

Rhaglen llesiant Meddwl am dy Feddwl
Rhaglen llesiant deuddeg wythnos sy’n defnyddio cyfuniad o strategaethau i gefnogi iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Credwn fod gan bob person ifanc gryfderau naturiol ac mae cysylltu â’r cryfderau hyn yw pan fydd positifrwydd a hyder yn dechrau tyfu.

Cefnogaeth un-i-un
Ar gyfer pobl ifanc sydd angen ychydig o gefnogaeth ychwanegol i fagu hyder er mwyn ymuno â’r rhaglen llesiant a’r grwpiau, gallwn gynnig cefnogaeth a chymorth un-i-un.

I gymryd rhan yn y prosiect, llenwa’r ffurflen cyfeirio yma.

I ddarganfod mwy, cysylltwch â’r tîm:

youngpeople@platfform.org
01656 647722/07972 631978